Fel rhan o’r paratoadau cyn croesawu’r arlunydd byd-enwog Rafael Lozano-Hemmer ar gyfer y Prosiect Big Art yn Aberteifi, mae Channel 4 heddiw, dydd Mercher y 27ain o Fehefin yn cynnal digwyddiad gwybodaeth a rhyngweithio ar gyfer busnesau a sefydliadau o Gymru am 5 y prynhawn yn y Senedd, Bae Caerdydd.




