Arlunydd yn bwriadu creu argraff ar dref yng Nghymru

Bydd yr arlunydd byd enwog Rafael Lozano-Hemmer yn ymweld ag Aberteifi, lleoliad ei brosiect celf cyhoeddus mawr nesaf, am y tro cyntaf ar ddydd Mercher y 28ain o Fawrth. Fe fydd Rafael hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn ‘cwrdd â’r arlunydd’ yn Theatr Mwldan ar yr un diwrnod, rhwng 5 a 7 yr hwyr.

Bu Aberteifi’n ffodus iawn i gael ei ddewis yn un o’r saith safle, allan o 1500 cymuned a geisiodd, i fod yn rhan o gynllun uchelgeisiol y Channel 4 Big Art Project. O ganlyniad fe fydd cynllun Aberteifi’n rhan o raglen ddogfen flaengar a ddarlledir ar Channel 4, fydd yn cynnwys golygfeydd o sut trawsnewidir ardal y Cei yn ofod cyhoeddus trawiadol a dychmygus.

Ymysg y lleoliadau llwyddiannus eraill a ddewiswyd ledled y Deyrnas Unedig, y mae Belfast, Burnley yn Swydd Gaerhirfryn, Sheffield, St Helen’s ar Lannau’r Merswy, Ynys Mull yn yr Alban a Newham yn nwyrain Llundain.

Yr arlunydd a ddewiswyd gan bobl Aberteifi drwy gyfweliad linc-fideo oedd Rafael Lozano-Hemmer, a ddaw’n wreiddiol o Fecsico, ond sydd bellach wedi ymgartrefu yn Montreal, Canada. Mae Rafael Lozano-Hemmer, eto i weld y lleoliad ar hyd yr afon Teifi ac fe fydd yr ymweliad yn ei alluogi i ymweld, cynllunio, cwmpasu a chostio ei gynigion a dechrau ar nifer o ddeialogau rhyngddo ef ac aelodau pwyllgor llywio Big Art Project Aberteifi.

Dywedodd Jim Evans, enwebydd safle Aberteifi, “Bydd Big Art yn rhoi Aberteifi ar y map. Gyda chyfraniad Rafael, gallwn greu rhywbeth sydd yn ddramatig ac yn cydio yn nychymyg trigolion y dref. Rydym yn eithaf parod i fod yn ddadleuol os bo’r angen. Rydym am wneud datganiad cryf!”

Dywedodd Rafael Lozano-Hemmer, “Mae’n fraint o’r mwyaf i fedru gweithio gyda phobl Cymru, a phobl tref Aberteifi’n benodol, ar y prosiect cyffroes hwn. Edrychaf ymlaen yn arw at gael ymdeimlad o’r lleoliad a dysgu am freuddwydion a dyheadau’r trigolion lleol. Gall celf chwarae rhan arwyddocaol iawn wrth adfywio ardal a sicrhau dyfodol ffyniannus iddo. Rwy’n edrych ymlaen hefyd at gydweithio gyda’r Pwyllgor Llywio er mwyn creu gwaith celf sy’n deilwng i’w ardal, er budd Aberteifi a Chymru gyfan.”

Ategodd Wiard Sterk, cyfarwyddwr CBAT yr Asiantaeth Gelf ac Adfywio, “Rydym yn teimlo’n gyffroes iawn am gyflwyno Rafael i drigolion tref Aberteifi. Rwy’n siŵr y bydd wrth ei fodd gyda’r lleoliad sydd yn amlwg a deniadol ac y câi ei ysbrydoli i greu cryn argraff ar y dref marchnad hanesyddol yma. Bydd y sesiwn agored ar ddiwedd ei ymweliad yn gyfle i aelodau’r cyhoedd rhoi eu mewnbwn hwythau i’r prosiect. Hoffwn annog unrhyw un sydd am leisio eu barn, i ddod i’r cyfarfod ac ymuno â’r drafodaeth. Dyma gyfle delfrydol i chwarae rôl o fewn cynllun y Big Art Project.”

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rhodri Ellis Owen neu Lleucu Cooke yn Cambrensis ar 029 2025 7075.