Deialog yn datrys problemau Big Art yn Aberteifi
Trafodaeth adeiladol oedd canolbwynt cyfarfod diweddar a gynhaliwyd yn Mwldan Creadigol yn Aberteifi er mwyn mynd i’r afael a sawl mater perthnasol i ddyluniad a lleoliad arfaethedig y Big Art Project yn Aberteifi.
Yn ogystal â’r arlunydd dewisedig, Rafael Lozano-Hemmer a churadur Big Art Project, Channel 4, Abertieifi, Wiard Sterk, yn bresennol roedd budd-ddeiliaid, grwpiau rheoleiddio a diddordeb sydd wedi bod ynghlwm o’r prosiect o’r dechrau, oll yn bresennol. Ymysg y grwpiau yma, roedd Pwyllgor Sianeli Mordwyo Afon Teifi, Menter Aberteifi, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, Asiantaeth yr Amgylchedd, Y Siambr Fasnach ac Ymgynghoriad y Dyfrgi.
Roedd y cyfarfod yn gyfle i bawb oedd ynghlwm â’r prosiect i fedru trafod pryderon y trigolion lleol ac i geisio cyngor ac arweiniad ar sut y gall lleoliad arfaethedig Cei’r Tywysog Siarl weithredu’n ymarferol.
Dywedodd Wiard Sterk, curadur Big Art Project, Aberteifi, “Cafodd y cyfarfod ei alw fel ymateb i broblemau a godwyd ynglÅ·n â’r lleoliad arfaethedig ar gyfer y gosodiad celf gorffenedig. Mae’n bwysig fod cymaint o safbwyntiau ag sy’n bosib yn cael eu clywed, yn enwedig y grwpiau hynny sydd yn meddu ar arbenigedd penodol neu gyfrifoldebau sydd yn berthnasol i’r afon Teifi. Mae’r rhain yn cynnwys safbwyntiau budd-ddeiliaid ac aelodau o’r cyhoedd sydd yn teimlo y bydd safle Cei’r Tywysog Siarl yn profi’n broblem i unrhyw un a geisiai dramwyo’r afon. Ein dyletswydd ni yw tawelu’r pryderon yma, a chanfod atebion ymarferol i unrhyw broblemau a gyflwynir ger ein bron - er mwyn gweithredu prosiect y gall Aberteifi fod yn falch ohono.
“Roedd y trafodaethau’n hynod o adeiladol ac er nad ydym wedi cyrraedd y canlyniad delfrydol eto, hyderaf, gyda chyngor arbenigol, a chefnogaeth adeiladol y gwahanol gyrff a chyfarfodydd cyhoeddus pellach, fe all y lleoliad gwreiddiol brofi’n llwyddiant ysgubol.
“Mae’r Channel 4 Big Art Project yn cynnig cyfle gwych i’r dref ac mae’n bwysig felly nid yn unig y bydd gan Aberteifi osodiad celf neywdd ac arbennig, ond hefyd lleoliad addas fydd yn creu’r argraff mwyaf postitif ar ymwelwyr yn ogystal â thrigolion lleol.
“Cynhelir cyfarfod cyhoeddus pellach yn Aberteifi ar ddiwedd Chwefror, gyda’r dyddiad a’r lleoliad i’w cadarnhau maes o law. Erbyn y cyfarfod, fe fydd drafft diweddaraf y dyluniad wedi ei addasu - a gobeithiaf y bydd cymaint o bobl ag sy’n bosib, boed yn aelodau o grwpiau diddordeb neu’n unigolion, yn cael eu hysgogi i fynychu’r cyfarfod a chlywed beth sydd gennym i’w ddweud, mynegi eu hawgrymiadau a’u pryderon a chydweithio gyda ni i greu gosodiad celf arbennig i dref Aberteifi a gosodiad celf fydd yn plesio pawb.â€
Ategodd Rafael Lozano-Hemmer, “Mae ymateb trigolion Aberteifi sydd wedi gweld y prosiect hyd yn hyn wedi bod yn hynod bositif ac edrychaf ymlaen at y cyfarfod cyhoeddus nesaf lle y gallaf gyfarfod mwy o’r trigolion lleol gan fynd i’r afael ag unrhyw bryderon sydd ganddynt ynglÅ·n â’r prosiect.â€
Mae’r Big Art Project yn Aberteifi yn ymgorffori rhan o gynlluniau comisiynu celf gyhoeddus fwyaf a welwyd yn y Deyrnas Unedig erioed. Cafodd ei sefydlu gan Channel 4, ac fe’i cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, yr asiantaeth genedlaethol ar gyfer datblygu’r celfyddydau a The Art Fund, elusen gelfyddydol fwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig. Mae Channel 4 wedi comisiynu Carbon Media/ Princess Productions i gynhyrchu cyfres o raglenni yn dilyn cynnydd y broses ar draws y saith safle arfaethedig ledled y Deyrnas Unedig. Fe ddarlledir y rhaglen ddiwedd y flwyddyn hon - ac am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan: www.channel4.com/bigart.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rhodri Ellis Owen neu Lleucu Cooke yn Cambrensis ar 029 2025 7075.




