Bydd cyfarfod gyhoeddus i drafod newyddion diweddaraf y prosiect uchelgeisiol Big Art yn cael ei gynnal yn Canolfan Byd Bychan, Aberteifi ar ddydd Mawrth 2 Medi am 8 o’r gloch y nos. Yn bresennol yn y cyfarfod, bydd yr arlunydd a ddewiswyd i greu’r darn celf, Rafael Lozano-Hemmer, curadur y prosiect, Wiard Sterk yn ogystal â budd-deiliaid fydd yn cynnwys y tîm dichonolrwydd technegol. i unrhyw un sydd eisiau postio cwestiwn cyn y cyfarfod ebostio Rhodri@cambrensis.uk.com neu bostio eu sylwadau yma.
Mae’r cyfarfod yn gyfle i gyflwyno darganfyddiadau o’r astudiaethau dichonolrwydd technegol sydd wedi cael eu cyflawni ar yr afon wrth ddefnyddio bwiau prototeip. Er nad oes cyfanswm mawr o’r data wedi cael ei werthuso eto, mae’n ymddangos taw’ y Strand, yn hytrach na Chei’r Tywysog Siarl, ydi’r safle mwyaf addas ac ymarferol ar gyfer y celf gorffenedig yn ôl y darganfyddiadau dechreuol. Mae mwy o brofion i’w cyflawni, ond bydd darganfyddiadau gorffenedig yr ymchwil a’r argymhellion ar y ffordd ymlaen yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfod cyhoeddus yn ogystal â sicrhau mandad cyhoeddus.
Dywedodd Wiard Sterk, ‘Mae’r arbrofion ar yr afon Teifi, sydd dal yn mynd ymlaen, yn taflu goleuni newydd ar nifer o faterion yn ymwneud a phethau ymarferol lleoliad y gosodiad celf uchelgeisiol ar y Teifi. Unwaith bod y data wedi cael ei brosesu, fe fydd angen, gyda chaniatâd trigolion Aberteifi, gwneud penderfyniadau pendant.’
‘Os oes rhaid edrych ar gyfaddasrwydd hirdymor y lleoliad Cei’r Tywysog Siarl, yna bydd rhaid i ni wasgu’n dannedd a chyflwyno dewis arall. Gobeithio bod gymaint o bobl yn gallu dod i’r cyfarfod i ganiatáu trafodaeth lawn ac agored am y prosiect cyffrous yma.’






