HABITAT REGULATIONS ASSESSMENT OF THE ‘BIG ART PROJECT’ IN CARDIGAN
Click on the title to view the full report [opens in new window]
Adroddiad amgylcheddol yn rhoi’r golau gwyrdd i Gynnwrf Aberteifi
Mae adroddiad gwyddonol wedi canfod na fyddai dim effaith wael ar y rhywogaethau pysgod dynodedig yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afon Teifi os aiff gwaith yr artist Rafael Lozano-Hemmer, Cynnwrf (“Turbulence”) ar gyfer y Big Art Project yn ei flaen. Caiff yr adroddiad llawn ei ryddhau heddiw gan y Big Art Project yn Aberteifi, ac mae i’w weld yn www.cardiganbigart.com.
Cafodd yr adroddiad gan Wyddonwyr Dŵr APEM ei gomisiynu gan yr ymgynghoriaeth gelf gyhoeddus annibynnol Safle a The Big Art Trust – ymddiriedolaeth elusennol i greu a hyrwyddo celf gyhoeddus gyda chymunedau lleol – oherwydd bod lleoliad arfaethedig Cynnwrf yn Afon Teifi’n agos at ddau safle o ddiddordeb gwyddonol sydd wedi’u gwarchod dan gyfraith Ewrop.
Edrychodd yr adroddiad ar effaith botensial Cynnwrf – yn enwedig wrth yrru golau a sain – ar eogiaid, siwin a llysywod pendoll yr afon a’r môr a’u harferion mudo. Aseswyd effaith y ceblau tanddwr ac adeiledd y gwaith celf ei hun hefyd.
Clwstwr o 127 bwi rhyngweithiol yw Cynnwrf a fydd yn nofio ar Afon Teifi nesaf at y Strand yn Aberteifi. Wedi’u cynnal gan gorff cwch suddedig ynghlwm wrth ddwy angor i ganiatáu i’r gwaith celf symud gyda’r llanw, bydd y bwiau’n cynnwys goleuadau LED ac uchelseinydd. Ar hyd y cei, bydd meicroffonau’n recordio lleisiau pobl sy’n cerdded heibio, yn eu storio o fewn y bwiau ac yn ysgogi’r goleuadau. Wrth i ddŵr yr afon gynhyrfu o dro i dro caiff y seiniau a storiwyd eu rhyddhau a chânt eu clywed fel ffrwd o leisiau ar y cei a’r lan.
Dyma gasgliadau allweddol adroddiad Gwyddonwyr Dŵr APEM:
- Golau
- Canfu mesuriadau’r golau fod treiddiad y golau a ryddheir gan y bwiau i mewn i golofn y dŵr yn debygol o fod yn gyfyngedig i gylch o fewn dau fetr i’r adeiledd. Er y gallai hyn beri i bysgod osgoi’r union fan hon yn ystod y nos, canfu’r adroddiad, gan y bydd Cynnwrf wedi’i leoli ar dro mewnol yr afon, ei bod yn annhebygol y ceid unrhyw effaith ar fudo gan y byddai’r pysgod mudol yn gallu mudo drwy’r afon yn rhannau canol ac allanol y tro, sydd yn debygol o gael eu dewis beth bynnag oherwydd y cerrynt dŵr cyflymach.
- Sain
- Ni fydd y sain o’r chwe uchelseinydd arfaethedig yn effeithio ar yr eogiaid a’r siwin gan eu bod i bob pwrpas yn fyddar ar yr ystodau sain a gaiff eu rhyddhau, a dim ond cyfran fechan o’r sain o’r uchelseinyddion a gâi ei drosglwyddo i’r golofn ddŵr. Canfu’r adroddiad y gallai rhywfaint o sain gael ei throsglwyddo i’r dŵr drwy’r polyn fyddai’n dal yr uchelseinyddion ond y byddai’n annhebygol o rwystro pysgod rhag mudo’n llwyddiannus heibio i’r safle.
- Clyw gwan sydd gan lysywod pendoll ac maent yn annhebygol o glywed sain a ddaw o’r uchelseinyddion na chael eu haflonyddu.
- Adeiledd angori’r bwiau
- Er y byddai’r cwch suddedig yn lleihau’r goleuni oddi tano, byddai hyn yn debyg i unrhyw gwch arall a fyddai wedi angori ac ni fernid y câi unrhyw effaith. Yn wir, gallai’r adeiledd gael effaith lesol i bysgod, trwy roi cysgod a lloches iddynt yn ystod y dydd. Mae llysywod pendoll, yn arbennig, yn hoffi mannau cysgodol yn ystod golau dydd.
Mae’r adroddiad hwn wedi’i gyflwyno i Gyngor Sir Ceredigion yn ogystal ag i Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Cyngor Cefn Gwlad, fel rhan o’r broses o geisio caniatâd cynllunio i osod Cynnwrf yn barhaol yn Afon Teifi. Ymgynghorwyd â’r tri chorff hyn drwy gydol y cyfnod astudio ac maent wedi derbyn casgliadau’r adroddiad.
Mae Cynnwrf Rafael Lozano-Hemmer yn un o nifer o brosiectau celf gyhoeddus a fwriedir o gwmpas y wlad fel rhan o brosiect uchelgeisiol Channel 4, Big Art Project, i gomisiynu celf gyhoeddus. Yn ôl yr artist, bwriedir i Cynnwrf “adlewyrchu traddodiad llafar, barddoniaeth a chân y Cymry.”
Cefnogir y Big Art Project gan yr elusen annibynnol Y Gronfa Gelf a chan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Caiff cyfres o bedair rhan ei darlledu ar Channel 4 y gwanwyn yma.




