Beth yw’r Big Art Project?
Mae’r Big Art Project yn fenter celf gyhoeddus uchelgeisiol ac arloesol sydd wedi ei gomisiynu gan Channel 4, ac fe’i cefnogir gan Arts Council England, yr asiantaeth dros ddatblygiad cenedlaethol y celfyddydau a’r Art Fund, elusen gelfyddydol annibynnol mwyaf blaenllaw’r DU.
Yn 2005, gwahoddwyd aelodau’r cyhoedd y DU gan Channel 4 i egluro sut fyddai eu cymuned hwy yn elwa o gael darn newydd celf gyhoeddus. Cafwyd ymateb llethol gyda dros 1400 o geisiadau gan gymunedau ar draws y DU. Wedi penderfyniadau anodd, dewiswyd saith safle: Beckton ym Mwrdeistref Llundain o Newham, Gogledd Belfast, Burnley, Aberteifi, Ynys Mull yn yr Alban, Sheffield a St Helens ar Lannau’r Merswy.
Carbon Media sy’n ffilmio cynnydd y comisiynau celf gyhoeddus a’r broses o’i ddechreuad hyd at ei gwblhad ar gyfer cyfres Channel 4 a ddarlledir yn 2009.
Pam y dewiswyd Aberteifi?
Cafodd Aberteifi ei enwebu gan unigolion o’r gymuned fel rhan o raglen adfywio aber y Teifi a Chei’r Tywysog Siarl.
Ymysg y meini prawf a ddefnyddiwyd wrth ddewis y saith safle olaf, oedd: cefnogaeth cynllunio a gwleidyddol; Potensial esthetig ac addysgiadol; Amrywiaeth y gelf a fydd bosibl i’w greu; Brwdfrydedd a hyblygrwydd y gymuned a enwebwyd yn ogystal â’r potensial i uchafu mynediad cyhoeddus i’r broses gomisiynu a’r gwaith celf orffenedig.
Pwy ddewisodd yr artist?
Ymysg y panel ymgynghorol mae enwebwr y safle, Jim Evans, yn ogystal â Barbara Myers a Paul Oakley, gydag aelodau cymuned Aberteifi a ymgymerodd y dasg o ddewis un o’r artistiaid cyfredol mwyaf arloesol a blaengar y byd, Rafael Lozano-Hemmer. Gyda chefndir o weithio yn y cyfryngau electroneg, mae Rafael yn datblygu gosodiadau rhyngweithiol ar raddfa fawr mewn mannau cyhoeddus, gan amlaf yn defnyddio technoleg newydd a rhyngwynebau ffisegol a wneir yn Ă´l dewis.
Sut alla i ddysgu mwy am yr artist?
Am fwy o wybodaeth am yr artist a’r gwaith arfaethedig, Turbulence, ewch i
http://www.lozano-hemmer.com
Beth yn union yw’r cynnig?
Mae ‘Turbulence’ yn osodiad rhyngweithiol yn cynnwys clwstwr o fwiau wedi eu goleuo gan leisiau pobl sy’n cerdded heibio. Mae’r cant dau ddeg a saith bwi yn arnofio ar ganol yr afon ac yn cynnwys darseinydd, goleuadau LED a sensor sy’n canfod unrhyw symudiad yn y dŵr.
Gosodir nifer o ficroffonau mewn lleoliadau gwahanol o gwmpas y lan sy’n recordio lleisiau pobl. Yna, mi fyddant yn cael eu trawsnewid i oleuadau sy’n fflachio o fewn y bwiau. Mae’r lleisiau yn cael eu cadw yn dawel yn y bwiau, nes i dymestl gyfnodol yr afon, a achosir gan lif a thrai parhaol yr afon Teifi, ysgogi’r bwiau i ryddhau synau sydd wedi eu storio, a ellir eu clywed o’r lan. Bydd gwefan, yn galluogi pobl ledled y byd, yn yr un modd i ychwanegu eu lleisiau hwy i’r prosiect.
Bwriad y gosodiad yw adlewyrchu traddodiad llafar Cymreig, megis cerdd a chan, gan greu llwyfan chwareus a chyfranogol a ysgogir gan gylchrediad naturiol y llanw.
Ble y lleolir y gwaith?
Lleoliad gwreiddiol arfaethedig y darn oedd Cei’r Tywysog Siarl. Er hyn, wedi astudiaethau dichonolrwydd ar y safle, canfuwyd fod y safle’n peri rhai problemau, yn benodol yn nhermau materion mordwyaeth. Y dewis arall sydd wedi dod i’r amlwg yw’r Strand, sydd ymhellach i fyny’r afon o’r cei. Yn ddibynnol ar gymeradwyaeth y gymuned leol, gellir angori ‘Turbulence’ yno’n ddiogel, gyda microffonau wedi eu gosod ar hyd y lanfa er mwyn recordio lleisiau aelodau o’r cyhoedd sydd yn cerdded heibio. Y bwriad yw gwella’r Strand fel safle cyhoeddus fel rhan o’r prosiect, ac mae’r arian er mwyn cynnal y gwaith wedi ei geisio amdano.
Sut yr ariennir y prosiect?
Mae nifer o sefydliadau yn cefnogi The Big Art Project yn Aberteifi. Y tri phrif gronfa ariannol yw Channel 4, Arts Council England a’r Art Fund. Ariennir y safle yn Aberteifi gan gyfuniad o’r prif ffynonellau yma yn ogystal â chymorth pellach gan Swyddfa Llywodraeth QuĂ©bec yn Llundain a’r ymgynghoriaeth celf gyhoeddus Gymreig, Safle. Mae cymorth pellach gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi ei geisio amdano.
Sut yr angorir y gosodiad?
Mae’r artist a rheolwr y prosiect wedi cydweithio gyda Keel Marine a Phensaer Morwrol lleol er mwyn eu cynorthwyo ar y prosiect. Maent yn cynllunio system allwyriad ar gyfer malurion sydd yn llifo i fyny ac i lawr yr afon yn ogystal â dull angori fydd yn cadw’r gosodiad yn ei le yn wyneb unrhyw amgylchiadau. Y prif achosion pryder yw maint y drag fydd y gwaith yn creu a’i botensial i ‘blymio’ pan fo’r cerrynt yn gryf ac mae’r cynllunwyr yn ceisio canfod ateb addas i’r broblem yma.
Pwy fydd yn cynnal a chadw’r gosodiad?
Mae gwaddol i gynnwys cost cynnal a chadw dros gyfnod o 10 mlynedd wedi ei gynnwys yn y gyllideb ar gyfer y gwaith. Mae Siambr Fasnach Aberteifi wedi cytuno i ymddwyn fel Cleient i’r prosiect ac yn cydweithio’n agos gyda Safle i sicrhau y cynhelir gwaith cynnal a chadw pan fo’r angen.
Sut na fydd y gosodiad yn rhwystro mordwyaeth?
Drwy adleoli’r gwaith uwchlaw’r bont, ni ddylai’r gosodiad achosi unrhyw broblemau mordwyo. Mae’r rhan yma o’r afon yn llydan ac yn fas ac ond yn hygyrch i fadau bychain. Bydd y gwaith yn cael ei angori oddi wrth y canol, ac yn agosach at lan ogleddol yr afon Teifi, gan alluogi canwod a chychod bychain fynd heibio’n gyfforddus.
A fydd y gosodiad yn achosi llygredd gweledol neu glywedol i’r ardal?
Mae’r arbrofion wedi dangos fod y golau’n treiddio i ddyfnder o 1.5 metr yn union o waelod y gosodiad ac o fewn metr o’r bwiau pan maent ar bŵer llawn. Fe all hyn fod yn broblem i Eogiaid a Gleisiaid sydd yn ymfudo, gan awgrymu fod y wawr wedi cyrraedd a’u gyrru i’r gwaelod ac aros i’r tywyllwch gyrraedd er mwyn parhau ar eu taith. Mae’r prif gyfnod ymfudo o gwmpas diwedd mis Mawrth a dechrau Ebrill. Er mwyn datrys y broblem gellir gostwng lefelau’r golau rhwng 10 yr hwyr a 5 y bore, yn ystod y tymor ymfudo neu osod masgiad gwell dros y golau o fewn y bwiau.
Gosodir lefelau’r sŵn fel nad yw’n effeithio ar fywyd gwyllt. Mae’r prosiect yn derbyn cyngor gan ymgynghorwyr perthnasol gan gyfathrebu’n rheolaidd gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
Am ba hyd fydd y gosodiad yn ei le?
Y gobaith yw y bydd y gosodiad yn ei le am amser hir! Mae’r bwiau yn arnofio, ar hyn o bryd, mewn lleoliad amgen er mwyn arbrofi eu gwydnwch, ond does dim tystiolaeth hyd yn hyn i awgrymu na fydd y bwiau yn medru gwrthsefyll llymder yr amgylchedd. Er hyn, efallai yn y dyfodol y bydd y dechnoleg a ddefnyddir yn dod yn anarferedig, felly efallai y daw perthnasedd y gwaith yn llai ac yn llai dros amser. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio yn Ă´l y dybiaeth y bydd y gosodiad yn para am ddeng mlynedd.
Sut fydd y gwaith yn effeithio ar dref Aberteifi?
Y cwestiwn mawr sydd o amgylch prosiect Aberteifi ydy ‘A all celf ddenu twristiaeth?’ Y gobaith yw y bydd y gosodiad, yn ogystal â darparu buddiant go iawn i drigolion Aberteifi, y bydd y comisiwn yn denu twristiaid i’r dref hyfryd drwy’r ymdriniaeth amlwg y bydd y dref yn ei dderbyn drwy’r darllediad teledu. Fe all hyn ddarparu momentwm pellach ar gyfer prosiectau adfywio eraill megis adfer y castell.




