Bydd cyfarfod gyhoeddus i drafod newyddion diweddaraf y prosiect uchelgeisiol Big Art yn cael ei gynnal yn Theatr Byd Bychan, Aberteifi ar ddydd Mawrth 2 Medi am 8 o’r gloch y nos.
Bydd cyfarfod gyhoeddus i drafod newyddion diweddaraf y prosiect uchelgeisiol Big Art yn cael ei gynnal yn Theatr Byd Bychan, Aberteifi ar ddydd Mawrth 2 Medi am 8 o’r gloch y nos.
Cynhelir y cyfarfod cyhoeddus nesaf yn Aberteifi ar ddydd Mawrth, Medi 2il. Fe fydd yr union amser a’r lleoliad yn cael ei gyhoeddi dros yr wythnosau nesaf. Gall ymwelwyr sy’n mewngofnodi i’r safle, gael cyfle i ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau ar y darn celf arfaethedig cyn y cyfarfod.
Bydd gwefan newydd ar gyfer popeth sy’n ymwneud a’r Big Art Project yn Aberteifi yn cael ei lansio heddiw, ar ddydd Mawrth, y 1af o Orffennaf. Wedi ei ddylunio gan gwmni lleol Mwldan Creadigol, fe fydd y safle rhyngweithiol, dwyieithog www.cardiganbigart.com / www.celfyddydaberteifi.com yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau Turbulence, y prosiect celf gyhoeddus uchelgeisiol sydd wedi ei glustnodi ar gyfer tref Aberteifi.
Bydd yr arlunydd byd-enwog, Rafael Lozano-Hemmer yn ymweld ag Aberteifi am y trydydd tro, er mwyn trin a thrafod y datblygiadau diweddaraf Big Art Prosiect y dref, mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhelir yn neuadd Ysgol Uwchradd Aberteifi ar ddydd Gwener y 29ain o Chwefror am 7 yr hwyr. Bydd y cyfarfod ar agor i bawb ac yn gyfle i unrhyw un sydd â diddordeb yn y prosiect ddysgu mwy am ddatblygiadau diweddaraf y prosiect a thrin a thrafod nifer o faterion a godwyd ynglÅ·n â lleoliad Cei’r Tywysog Siarl.
