Annwyl gymuned Aberteifi,

Yn ddiweddar cefais sgwrs ffôn â Mr Ralph Rae, trefnydd y ddeiseb yn erbyn fy ngosodwaith celf arnofiol “Cynnwrf” (“Turbulence”), a bu yntau mor garedig â thynnu fy sylw at y materion sy’n peri pryder iddo ef ynglŷn â’r prosiect. Hoffwn rannu gyda chi fy sylwadau ar y materion a gododd.

Soniodd Mr Rae wrthyf am y nifer fawr o bobl sydd wedi llofnodi ei ddeiseb. Dywedais wrtho pe bawn i’n byw yn Aberteifi y byddwn innau’n ei llofnodi, gan nad yw canlyniadau’r profion gwyddonol ar y modd y bydd y prosiect yn effeithio ar yr amgylchedd wedi’u cyhoeddi eto. Fel y mae’n digwydd, heddiw cawsom yr adroddiad oddi wrth y Gwyddonwyr Dŵr a byddwn yn ei bostio ar wefan www.cardiganbigart.com yn fuan i bawb gael ei weld. Mae eu casgliadau’n gadarnhaol iawn ac rwyf yn hapus na chaiff y prosiect ddim effaith ar fywyd gwyllt Aberteifi, sy’n ennyn balchder, harddwch ac incwm i’r ardal.

Ynglŷn â bod y gwaith yn rhwystr i gychod, nid oedd Mr Rae wedi’i ddarbwyllo y byddai adleoli’r prosiect i’r Strand yn gwneud y tro. Rhybuddiodd y gall lefel y dŵr fod yn isel iawn ym misoedd Awst a Medi ac y byddai’r gwaith naill ai’n mynd yn sownd yn y mwd neu’n drifftio i ganol yr afon, lle gallai fod yn rhwystr i gychod bach. Dyma un o’r rhesymau pam yr ydym yn dylunio’r gosodwaith ar ffurf “cwch” a all gael ei lusgo i ffwrdd yn rhwydd. Fy syniad i am Cynnwrf yw y gallai fod yn brosiect tymhorol a fyddai yn Aberteifi pan fo’r amodau’n iawn ac efallai y gallai hyd yn oed deithio i drefi eraill yng Nghymru a’r Byd: byddai’r gwaith yn casglu lleisiau ar ei daith i’w chwarae’n ôl ar ôl cyrraedd gartref. Wrth gwrs, mewn tref gyda phreswylwyr tymhorol eraill, fel y Keewaydin neu’r Eogiaid, gallai “gwaith celf mudol” wneud synnwyr barddonol!

Roedd Mr Rae yn bryderus iawn ynghylch pobl yn recordio geiriau anweddus ar y gosodwaith. Eglurais iddo, yn fy mhrofiad i o wneud prosiectau celfyddydol cyfranogol, fod pobl fel arfer yn hunan-safoni wrth gymryd rhan, gan ei fod yn debyg iawn i siarad mewn mannau cyhoeddus eraill: bydd pobl yn llythrennol yn gweld cyfranogwyr wrth y meicroffon, yn clywed eu lleisiau, ac os ydynt yn dweud rhywbeth enllibus, er enghraifft, nid yw’n annhebyg i’r hyn a ddigwyddai pe baent yn gwneud hynny mewn parc. Eglurais hefyd fod y synau’n dawel iawn, eu bod yn chwarae ynghyd â seiniau eraill bob 6 awr yn unig, ac y cânt eu cymysgu â recordiadau lleisiol o archifau Cymreig amlwg. Wedyn fe wnaeth Mr Rae bwynt da yr wyf yn cytuno ag ef: mae’n llawer anoddach rhwystro “cyfraniadau cableddus” trwy’r rhyngrwyd gan fod pobl yn gallu celu pwy ydynt a chamddefnyddio’r system. Fy ymateb i hyn yw y byddwn yn ystyried rhoi’r gorau’n gyfangwbl i’r elfen rhyngrwyd o’r prosiect, gan nad yw sensoriaeth ar-lein yn rhywbeth y byddwn yn fodlon ei ystyried, ac rwy’n cytuno y byddai’n amhosibl cael rheolaeth dros rai fyddai’n cyfranogi dros y we. Er gwaethaf y consesiwn hwn, gellid cadw effaith farddonol yr amrywiaeth cyfranogwyr pe bai’r prosiect yn teithio fel yr awgrymir uchod.

Mae llawer o bobl wedi mynegi pryder am gost y prosiect. Atgoffais Mr Rae am dair ffaith sylfaenol: 1) daw’r arian yn bennaf oddi wrth noddwyr annibynnol o’r tu allan i’r ardal sy’n credu yn rôl celfyddyd mewn gofod cyhoeddus - nid yw’r arian hwn yn cael ei dynnu allan o unrhyw gyllideb arall yn Aberteifi ac ysywaeth ni fydd yn dod i’r ardal o gwbl os caiff y prosiect ei ganslo; 2) defnyddir rhan helaeth o’r arian i dalu i bobl leol adeiladu a chynnal a chadw’r gwaith, gan greu budd economaidd uniongyrchol; 3) bydd y prosiect yn cynhyrchu incwm gan dwristiaid, ac mae’r ffaith y bydd Channel 4 yn darlledu’n genedlaethol eisoes yn gwarantu cyhoeddusrwydd i sicrhau y bydd hyn yn wir. Mae’r pryder ynglŷn â chynnal a chadw’r prosiect yn y tymor hir yn ddealladwy, ond nid yw’n annhebyg i’r hyn sy’n digwydd pan fydd tref yn gosod ffownten gyhoeddus er enghraifft: mae angen rhoi falfiau newydd yn lle rhai sy’n rhydu, cadw’r dŵr yn lân, newid bylbiau golau, ac ati. Mae cyllideb y prosiect yn cynnwys darpariaeth i sicrhau y gellir cynnal y gwaith am rai blynyddoedd, gan gynnwys adnewyddu ardal y Strand, a fydd yn cwblhau’r gwaith a ddechreuwyd ar Gei’r Tywysog Siarl ac yn creu gofod cyhoeddus braf i’r dref.

Ar y cwestiwn a ydyw fy ngwaith yn addas i’r ardal, gallaf ddweud fod y gwaith wedi’i ysbrydoli gan ddwy brif nodwedd yn y dref a’m hudodd. Ar y naill law, mae’r ffaith mai yn Aberteifi y dechreuodd yr Eisteddfod yn tanlinellu pwysigrwydd traddodiadau llafar, barddoniaeth a chân yn niwylliant Cymru a chredaf y bydd Cynnwrf yn cyfleu hyn yn dda. Nid yn unig oherwydd mai lleisiau pobl, yn llythrennol, sy’n “gwneud y gwaith” ond hefyd oherwydd y caiff eu recordiadau eu cymysgu â deunydd sain archifol nodweddiadol a ddewisir yn ofalus o ffynonellau fel y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan a BBC Cymru. Yr ysbrydoliaeth arall oedd yr afon ei hun, gyda’i llanw a thrai trawiadol sy’n drosiad addas am Wasgariad y Cymry, am y syniadau a’r nwyddau a fasnachwyd drwy gydol hanes Aberteifi fel porthladd pwysig, ac yn bennaf oll am ei bod yn ein cysylltu’n sylfaenol â chylchoedd bywyd naturiol y blaned hon.

Fy nghynllun nawr yw rhoi’r gwaith ar yr afon am arnofiad dros-dro cychwynnol yn gynnar ym mis Ebrill, mewn pryd i Channel 4 allu ei ffilmio. Bydd y “lansiad” hwn yn ein helpu i asesu unrhyw welliannau y gallem eu gwneud yn nyluniad neu osodiad y gwaith, ac yn rhoi blas ar y prosiect i’r gymuned. Wedyn deuai’r gwaith terfynol yn ôl erbyn gwanwyn 2010 fan bellaf, pan fydd y Strand wedi’i adnewyddu a’r gwelliannau wedi’u cyflawni. Mae’n ymddangos i mi fod rhai pobl dan yr argraff y bydd y gwaith yn sioe oleuadau gorlachar ac uchel ei chloch yn arddull Las Vegas, ond rwy’n hyderus y gwnânt dderbyn, y funud y’i gwelant, ei fod mewn gwirionedd yn waith tawel, myfyriol, parchus gyda lefelau sain a golau sydd wedi’u dewis trwy ymgynghori â’r gymuned.

Nid wyf yn siŵr a ddarbwyllwyd Mr Rae gan fy nadleuon, gadawodd imi wybod y bydd y brotest yn parhau, ond yr wyf yn diolch iddo am siarad â mi a thrwy hynny fy helpu i newid y prosiect i ateb y rhan fwyaf o’i bryderon. Diolch hefyd i’r nifer fawr o bobl o’r dref sydd wedi cysylltu â mi i rannu eu hawydd i weld gwireddu’r prosiect.