Mynegodd trigolion Aberteifi eu cefnogaeth cryf dros barhad prosiect celf gyhoeddus Big Art Channel 4, ‘Turbulence’, mewn cyfarfod cyhoeddus fyrlymog ar nos Fawrth yn Theatr Byd Bychan y dref. Cafwyd mandad clir o 79% o blaid y cynllun gan fynychwyr y cyfarfod cyhoeddus er mwyn galluogi i dîm y prosiect fedru cwblhau camau dichonolrwydd a thechnegol olaf ar y lleoliad arfaethedig newydd yn y Strand, sydd wedi ei leoli ychydig ymhellach i fyny’r afon na Chei’r Tywysog Siarl.

Mynychodd yn agos at 100 o bobl y cyfarfod, i glywed yr arlunydd dewisedig, Rafael Lozano-Hemmer, curadur y prosiect, Wiard Sterk yn ogystal â chynrychiolwyr a budd ddeiliaid y Big Art Project gan gynnwys y tîm dichonolrwydd technegol, yn esbonio manylion y cerflun rhyngweithiol arnofiol arfaethedig ac ymateb i nifer o ymholiadau a gofidion ymarferol ynghlwm â’r prosiect uchelgeisiol.

Dywedodd Rafael Lozano-Hemmer, ‘Galwyd y cyfarfod fel ymateb i nifer o faterion a godwyd ynghylch a pha mor ymarferol oedd hi i leoli gwaith celf uchelgeisiol ar yr afon Teifi. Roeddwn yn awyddus tu hwnt i dderbyn cefnogaeth trigolion Aberteifi er mwyn i mi fod yn hapus i barhau gyda chamau nesaf y prosiect.’

‘Roedd yn galonogol iawn derbyn cefnogaeth mor bositif gan y trigolion a fynychodd y cyfarfod ar gyfer y prosiect, ac mi ydw i am sicrhau y bydd hwn yn ganlyniad gwych i dref ac i drigolion Aberteifi. Nawr fy mod wedi derbyn y gefnogaeth, gallaf fynd ati i weithredu fy ngweledigaeth o greu gosodiad celf gyhoeddus y gall Aberteifi fod yn falch ohono.’