Bydd yr arlunydd byd-enwog, Rafael Lozano-Hemmer yn ymweld ag Aberteifi am y trydydd tro, er mwyn trin a thrafod y datblygiadau diweddaraf Big Art Prosiect y dref, mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhelir yn neuadd Ysgol Uwchradd Aberteifi ar ddydd Gwener y 29ain o Chwefror am 7 yr hwyr. Bydd y cyfarfod ar agor i bawb ac yn gyfle i unrhyw un sydd â diddordeb yn y prosiect ddysgu mwy am ddatblygiadau diweddaraf y prosiect a thrin a thrafod nifer o faterion a godwyd ynglÅ·n â lleoliad Cei’r Tywysog Siarl.




